7 A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur, a'n gorthrymder.
8 A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau.
9 Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw.
11 Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i'th deulu, tydi, a'r Lefiad, a'r dieithr a fyddo yn dy fysg.
12 Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm; yna y rhoddi i'r Lefiad, i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.
13 A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Dygais y peth cysegredig allan o'm tŷ, ac a'i rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o'th orchmynion ac nis anghofiais.