13 A'r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.
14 A'r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel,
15 Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel. A'r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen.
16 Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen.
17 Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen.
18 Melltigedig yw yr hwn a baro i'r dall gyfeiliorni allan o'r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.
19 Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a'r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.