18 Melltigedig yw yr hwn a baro i'r dall gyfeiliorni allan o'r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.
19 Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a'r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.
20 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.
21 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen.
22 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.
23 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.
24 Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.