22 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.
23 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.
24 Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.
25 Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen.
26 Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.