3 Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt.
4 A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.
5 Ac adeilada yno allor i'r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn.
6 A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i'r Arglwydd dy Dduw.
7 Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw.
8 Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9 A llefarodd Moses a'r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y'th wnaethpwyd yn bobl i'r Arglwydd dy Dduw.