7 Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw.
8 Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9 A llefarodd Moses a'r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y'th wnaethpwyd yn bobl i'r Arglwydd dy Dduw.
10 Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
11 A gorchmynnodd Moses i'r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd.
12 Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin.
13 A'r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.