1 Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr Arglwydd dy Dduw a'th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.
2 A'r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a'th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw.
3 Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes.
4 Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.
5 Bendigedig fydd dy gawell a'th does di.
6 Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan.