16 Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes.
17 Melltigedig fydd dy gawell a'th does di.
18 Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.
19 Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan.
20 Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a'th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y'm gwrthodaist i.
21 Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.
22 Yr Arglwydd a'th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a'th ddilynant nes dy ddifetha.