22 Yr Arglwydd a'th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a'th ddilynant nes dy ddifetha.
23 Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a'r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn.
24 Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o'r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni'th ddinistrier.
25 Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o'u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
26 A'th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a'u tarfo.
27 Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o'r rhai ni ellir dy iacháu.
28 Yr Arglwydd a'th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon.