24 Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o'r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni'th ddinistrier.
25 Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o'u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.
26 A'th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a'u tarfo.
27 Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o'r rhai ni ellir dy iacháu.
28 Yr Arglwydd a'th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon.
29 Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a'th waredo.
30 Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gydorwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.