3 Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes.
4 Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.
5 Bendigedig fydd dy gawell a'th does di.
6 Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan.
7 Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i'th erbyn yn lladdedig o'th flaen di: trwy un ffordd y deuant i'th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o'th flaen.
8 Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a'th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.
9 Yr Arglwydd a'th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef.