33 Ffrwyth dy dir a'th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser:
34 A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.
35 Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun.
36 Yr Arglwydd a'th ddwg di, a'th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na'th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.
37 A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt.
38 Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a'i hysa.
39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a'u bwyty.