37 A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt.
38 Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a'i hysa.
39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a'u bwyty.
40 Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni'th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.
41 Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.
42 Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.
43 Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.