39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a'u bwyty.
40 Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni'th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.
41 Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.
42 Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.
43 Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.
44 Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon.
45 A'r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a'th erlidiant, ac a'th oddiweddant, hyd oni'th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.