46 A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.
47 Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim:
48 Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.
49 Yr Arglwydd a ddwg i'th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith;
50 Cenedl wyneb‐galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i'r llanc.
51 A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni'th ddinistrier: yr hon ni ad i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni'th ddifetho di.
52 A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a'th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.