57 Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o'i chorff, a'i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a'u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.
58 Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW;
59 Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus.
60 Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt.
61 Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni'th ddinistrier.
62 Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw.
63 A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i'ch amlhau; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i'ch dinistrio, ac i'ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o'r tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu.