65 Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.
66 A'th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o'th einioes.
67 Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.
68 A'r Arglwydd a'th ddychwel di i'r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i'ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a'ch pryno.