9 Yr Arglwydd a'th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef.
10 A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rhagot.
11 A'r Arglwydd a'th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i'th dadau ar ei roddi i ti.
12 Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i'th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn.
13 A'r Arglwydd a'th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i'w cadw, ac i'w gwneuthur;
14 Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i'r tu deau neu i'r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt.
15 A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y'th oddiweddant.