19 A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
20 Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.
21 A'r Arglwydd a'i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.
22 A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a'r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a'i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi;
23 A'i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigofaint:
24 Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?
25 Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.