1 A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;
2 Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.
3 Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o'th flaen di; efe a ddinistria'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a thi a'u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o'th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.
4 A'r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i'w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.
5 A rhydd yr Arglwydd hwynt o'ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi.