21 Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i'r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i'r tir a addewais trwy lw.
22 A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a'i dysgodd hi i feibion Israel.
23 Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i'r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.
24 A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;
25 Yna y gorchmynnodd Moses i'r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, gan ddywedyd,
26 Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i'th erbyn.
27 Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a'th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw,gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?