6 Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd.
7 A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda'r bobl yma i'r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a'i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.
8 A'r Arglwydd hefyd sydd yn myned o'th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni'th edy, ac ni'th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.
9 A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a'i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.
10 A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll,
11 Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.
12 Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a'r plant, a'r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;