1 Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.
2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.
3 Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i'n Duw ni.
4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.
5 Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.
6 Ai hyn a delwch i'r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a'th brynwr? onid efe a'th wnaeth, ac a'th sicrhaodd?
7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i'th dad, ac efe a fynega i ti; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.