5 A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd.
6 Ac efe a'i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth‐peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.
7 A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef.
8 A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.
9 A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
10 Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb;
11 Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i'w gwneuthur yn nhir yr Aifft, ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef,