7 A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef.
8 A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.
9 A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
10 Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb;
11 Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i'w gwneuthur yn nhir yr Aifft, ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef,
12 Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel.