1 A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a'r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a'u cadw, a'u gwneuthur.
2 Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb.
3 Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw.
4 Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
5 (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i'r mynydd,) gan ddywedyd,