11 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.
12 Cadw y dydd Saboth i'w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
13 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
14 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac yr un o'th anifeiliaid, na'th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a'th forwyn, fel ti dy hun.
15 A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a'th ddwyn o'r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.
16 Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
17 Na ladd.