19 Ac na ladrata.
20 Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
21 Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na'i faes, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r y sydd eiddo dy gymydog.
22 Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a'r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a'u rhoddes ataf fi.
23 A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a'r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a'ch henuriaid chwi;
24 Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a'i fawredd; a'i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, a byw ohono.
25 Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a'n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn.