29 O na byddai gyfryw galon ynddynt, i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i'w plant yn dragwyddol!
30 Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i'ch pebyll.
31 Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i'w pherchenogi
32 Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i'r tu deau nac i'r tu aswy.
33 Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.