4 Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
5 (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i'r mynydd,) gan ddywedyd,
6 Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a'th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
7 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
8 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a'r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear:
9 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;
10 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.