12 Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr Arglwydd, yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
13 Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i'w enw ef y tyngi.
14 Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o'ch amgylch chwi:
15 (Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a'th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.
16 Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa.
17 Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a'i dystiolaethau, a'i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti.
18 A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi'r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i'th dadau di;