4 Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.
5 Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth.
6 A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.
7 A hysbysa hwynt i'th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.
8 A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.
9 Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.
10 Ac fe a dderfydd, wedi i'r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i'r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,