1 Pan y'th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i'r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i'w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o'th flaen di, yr Hethiaid, a'r Girgasiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi;