17 Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith?
18 Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo, ac i'r holl Aifft:
19 Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a'r arwyddion, a'r rhyfeddodau, a'r llaw gadarn, a'r braich estynedig, â'r rhai y'th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna'r Arglwydd dy Dduw i'r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.
20 A'r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a'r rhai a ymguddiant rhagot ti.
21 Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.
22 A'r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o'th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi.
23 Ond yr Arglwydd dy Dduw a'u rhydd hwynt o'th flaen di, ac a'u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;