23 Ond yr Arglwydd dy Dduw a'u rhydd hwynt o'th flaen di, ac a'u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt;
24 Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt.
25 Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na'r arian na'r aur a fyddo arnynt, i'w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i'r Arglwydd dy Dduw ydyw.
26 Na ddwg dithau ffieidd‐dra i'th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.