6 Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
7 Nid am eich bod yn lluosocach na'r holl bobloedd, yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac y'ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o'r holl bobloedd
8 Ond oherwydd caru o'r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a'ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.
9 Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau;
10 Ac yn talu'r pwyth i'w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i'w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo.
11 Cadw gan hynny y gorchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i'w gwneuthur.
12 A bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a'u cadw, a'u gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod, a'r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i'th dadau di: