1 Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw.
2 A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.
3 Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a'th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn.
4 Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
5 Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.