12 Rhag wedi i ti fwyta, a'th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;
13 A lluosogi o'th wartheg a'th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o'r hyn oll y sydd gennyt:
14 Yna ymddyrchafu o'th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;
15 Yr hwn a'th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr;
16 Yr hwn a'th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)
17 A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.
18 Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.