2 A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.
3 Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a'th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn.
4 Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
5 Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.
6 A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef.
7 Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
8 Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;