4 Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
5 Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.
6 A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef.
7 Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
8 Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;
9 Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o'i mynyddoedd y cloddi bres.
10 Pan fwyteych, a'th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti.