1 Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;
2 Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac?
3 Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o'th flaen di yn dân ysol: efe a'u difetha hwynt, ac efe a'u darostwng hwynt o'th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt.
4 Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o'r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o'th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu'r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o'th flaen di.
5 Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o'th flaen di, ac er cyflawni'r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
6 Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i'w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.
7 Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o'r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i'r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd.