10 A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa.
11 A bu, ymhen y deugain niwrnod a'r deugain nos, roddi o'r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o'r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
13 A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.
14 Paid â mi, a mi a'u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a'th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy.
15 A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o'r mynydd, a'r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.
16 Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi.