14 Paid â mi, a mi a'u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a'th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy.
15 A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o'r mynydd, a'r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.
16 Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi.
17 A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a'u teflais hwynt o'm dwylo, ac a'u torrais hwynt o flaen eich llygaid.
18 A syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i'w ddigio ef.
19 (Canys ofnais rhag y soriant a'r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i'ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.
20 Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i'w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.