21 Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a'i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i'r afon oedd yn disgyn o'r mynydd.
22 O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau'r blys, yr oeddech yn digio'r Arglwydd.
23 A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.
24 Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi.
25 A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o'r blaen; am ddywedyd o'r Arglwydd y difethai chwi.
26 Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a'th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o'r Aifft â llaw gref.
27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod: