25 A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o'r blaen; am ddywedyd o'r Arglwydd y difethai chwi.
26 Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a'th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o'r Aifft â llaw gref.
27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:
28 Rhag dywedyd o'r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o'r Arglwydd eu dwyn hwynt i'r tir a addawsai efe iddynt, ac o'i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i'w lladd yn yr anialwch.
29 Eto dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â'th estynedig fraich.