Eseia 10 BWM

1 Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a'r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder;

2 I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid.

3 A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich gogoniant?

4 Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

5 Gwae Assur, gwialen fy llid, a'r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.

6 At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a'u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd.

7 Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig.

8 Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd?

9 Onid fel Charcemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria?

10 Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod, a'r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria:

11 Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i'w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i'w delwau hithau?

12 A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef:

13 Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a'u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i'r llawr y trigolion fel gŵr grymus:

14 A'm llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai.

15 A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a'i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a'i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren.

16 Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân.

17 A bydd goleuni Israel yn dân, a'i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd:

18 Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.

19 A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.

20 A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a'u trawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd.

21 Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn.

22 Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder.

23 Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir.

24 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: â gwialen y'th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i'th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft.

25 Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a'm digofaint yn eu dinistr hwy.

26 Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.

27 A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a'i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.

28 Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.

29 Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes.

30 Bloeddia â'th lef, merch Galim: pâr ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd.

31 Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi.

32 Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.

33 Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a'r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a'r rhai goruchel a ostyngir.

34 Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn; a Libanus trwy un cryf a gwymp.