Eseia 34 BWM

1 Nesewch, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a'i holl gnwd.

2 Canys llidiowgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd, a'i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i'r lladdfa.

3 A'u lladdedigion a fwrir allan, a'u drewiant o'u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o'u gwaed hwynt.

4 Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a'r nefoedd a blygir fel llyfr: a'i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o'r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.

5 Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i farn, ac ar y bobl a ysgymunais.

6 Cleddyf yr Arglwydd a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i'r Arglwydd aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.

7 A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a'r bustych gyda'r teirw; a'u tir hwynt a feddwa o'u gwaed hwynt, a'u llwch fydd dew o fraster.

8 Canys diwrnod dial yr Arglwydd, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw.

9 A'i hafonydd a droir yn byg, a'i llwch yn frwmstan, a'i daear yn byg llosgedig.

10 Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.

11 Y pelican hefyd a'r draenog a'i meddianna; y dylluan a'r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn anhrefn, a meini gwagedd.

12 Ei phendefigion hi a alwant i'r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a'i holl dywysogion hi fyddant ddiddim.

13 Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys.

14 Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a'r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.

15 Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda'i gymar.

16 Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a orchmynnodd, a'i ysbryd, efe a'u casglodd hwynt.

17 Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a'i law ef a'i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.