Eseia 8 BWM

1 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher‐shalal‐has‐bas.

2 A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia.

3 A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Galw ei enw ef, Maher‐shalal‐has‐bas.

4 Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.

5 A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd,

6 Oherwydd i'r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia:

7 Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a'i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.

8 Ie, trwy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.

9 Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir.

10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni.

11 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref, ac efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd,

12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch.

13 Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi:

14 Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem.

15 A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir.

16 Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion.

17 A minnau a ddisgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano.

18 Wele fi a'r plant a roddes yr Arglwydd i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.

19 A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â'r swynyddion, ac â'r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â'u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw?

20 At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt.

21 A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a'u Duw, ac a edrychant i fyny.

22 A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.