1 Yna y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O Arglwydd: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a'm cysuri.
2 Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a'm cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth.
3 Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth.
4 A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef.
5 Cenwch i'r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir.
6 Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o'th fewn di.