1 Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur.
2 Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd.
3 Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â'i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot.
4 Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol.
5 Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a'i darostwng hi i'r llawr, ac a'i bwrw hi i'r llwch.
6 Troed a'i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre'r tlodion.
7 Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn.
8 Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y'th ddisgwyliasom, Arglwydd; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth.
9 A'm henaid y'th ddymunais liw nos; â'm hysbryd hefyd o'm mewn y'th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear.
10 Gwneler cymwynas i'r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr Arglwydd.
11 Ni welant, Arglwydd, pan ddyrchafer dy law: eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl; ie, tân dy elynion a'u hysa hwynt.
12 Arglwydd, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni.
13 O Arglwydd ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw.
14 Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt.
15 Ychwanegaist ar y genedl, O Arglwydd, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a'i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear.
16 Mewn adfyd, Arglwydd, yr ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt.
17 Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos i esgor; felly yr oeddem o'th flaen di, Arglwydd.
18 Beichiogasom, gofidiasom, oeddem fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant.
19 Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a'r ddaear a fwrw y meirw allan.
20 Tyred, fy mhobl, dos i'th ystafelloedd, a chae dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio.
21 Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear: a'r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.